Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 6 Chwefror 2020
Amser:
09.20 -
12.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5970
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Terence Canning, Ymddiriedolaeth Sepsis y DU John James, Unigolyn Joy James, Unigolyn John Boulton, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Tracey Cooper, Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
1.2 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Angela Burns AC mai hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Sepsis, ac mai Terence Canning, yn ei rôl gydag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, sy’n darparu ysgrifenyddiaeth i'r Grŵp Trawsbleidiol. Datganodd Angela Burns AC ei bod hefyd wedi goroesi sepsis.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o Ymddiriedolaeth Sepsis y DU a Mr a Mrs James, goroeswr sepsis a'i wraig.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i wahodd rhanddeiliaid i rannu eu barn ar yr ymateb a chynnal digwyddiad ymgysylltu cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.